letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de uno, cydio, tanio - sŵnami

Loading...

[geiriau i “uno, cydio, tanio”]

[pennill 1]
yn dawel bach
mae’r dyddiau dal i lifo
i gyd yr un fath
yn aros tan bo’r llanw’n cilio
ond wedi’r cur, wedi’r holl ffarwelio
buan daw y golau nôl
buan daw o i gyd yn ôl

[corws]
i’n huno cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
fel uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un

[pennill 2]
gweld y byd
ond ‘mond drwy lygaid cámera
yn curo llaw
i foddi sŵn yr holl gelwyddau
ond a fydd aur
yr ochr draw i’r enfys?
pryd y daw y golau ‘nôl?
pryd y daw o i gyd yn ôl?
[corws]
i’n huno cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
fel uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un

[pont]
ond wrth edrych ‘mlaen (uno, cydio)
fyddwn ni’n gweld y gwerth (uno, cydio)
neu’n sownd yr un lle ag o’r blaen?
heb nod (uno, cydio)
yn dyheu am osod y darnau nôl fel un (uno)

dyma’r amser
i ail-ddarganfod y byd
cyfle newydd
wrth i’r lleisiau ddod ynghyd

[corws]
uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
uno, cydio, tanio
daw’r darnau nôl fel un
[diwedd]
ond wrth edrych ‘mlaen (uno, cydio)
fyddwn ni’n gweld y gwerth (uno, cydio)
neu’n sownd yr un lle ag o’r blaen?
heb nod (uno, cydio)
yn dyheu am osod y darnau nôl fеl un (uno)

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...