letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de sanctaidd i mi - steve eaves

Loading...

pump oed ar drothwy’r ‘sacred heart’
ofn gollwng llaw fy mam
‘tyrd i ddeud helo wrth y chwiorydd trugarog,
dyro wên i’r tad o’brian,’
arogldarthau ac atsain gweddi – petha’ gofia i am weddill f’oes,
fflamau canhwyllau’n dawnsio mewn rhes
dan iesu grist yn ei boen ar y groes.
ond erbyn hyn dw i wedi dwad yn bellach
i lawr yr hen lôn droellog,
a’r unig beth sy dal yn sanctaidd i mi
ydi’r cariad distaw rhyngddom ni.
ar y bore sul cyntaf o chwefror eleni
roedd ‘na farrug dros y caeau i gyd
mi wnes i wisgo ‘ngwas i a’i roid yng nghefn y car
ac i lawr i fangor â ni
i redeg a chwerthin a chicio’i bêl
ar gae swings tan y bryn
a mi ‘drychais i fyny ar yr awyr las
gan deimlo mor ddiolchgar am hyn:
dw i wedi dod yn ddigon pell i wybod
toes ‘na ddim byd yn para’n hir:
tad a mab neu ddau gariad law yn llaw
mae pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw.
ar lan yr afon dywyll, dw i’n ei dal hi’n dynn
dan y coed a’r sêr di-ri,
drwy ei dillad tena’ mae ei chalon yn drymio
a’i bronnau yn f’erbyn i,
mae ‘na dân yn rhedeg fel trên heb ddreifar
drwy’r gwythiennau hyn
a mae f’enaid yn deffro a hedfan i’r nos
fel alarch yn codi o’r llyn…
mae rhywbeth gwych am ddwad i’n rhan ni,
mae gwyrth ar fin digwydd – dw i’n llifo ati hi fel afon i’r môr,
a mae ‘na ddawns yn rhywle a sŵn gitâr…
dw i isio cerdded efo hi,
isio dawnsio efo hi,
isio nofio efo hi,
isio rhedeg efo hi.

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...