letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de adnabod - lewys

Loading...

[pennill 1]
does ‘na ddim byd gwell
clywed ‘straeon gan y lleill
ond dio’m otch
gena’i bethau gwell ar y gweill
geiria’ gwag sy’n fy nharo
dim byd da i’w ddweud
mwynhau’r olygfa
y cwlwm yn cau dadwneud
y cwlwm yn cau dadwneud

[cytgan]
mae’n amser i mi ganfod
sut ga i f’adnabod
cyn i rywun falurio’r llun
mae’n amser i mi ganfod
sut ga i f’adnabod
cyn colli gobaith yn fy hun

[pennill 2]
mae’n bryd i mi dorri’n rhydd
sownd yn y lle ‘ma
dwi’n llwgu heb llawennydd
mae mhen i fel anialwch
rhaid gweld y gwir drwy’r llaid a’r llwch
ymhlith y sêr
ymhlith y sêr

[cytgan]
mae’n amser i mi ganfod
sut ga i f’adnabod
cyn i rywun falurio’r llun
mae’n amser i mi ganfod
sut ga i f’adnabod
cyn colli gobaith yn fy hun

[offerynnol]

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...