letra de lisa lan - katherine jenkins
Loading...
bûm yn dy garu lawer gwaith
do lawer awr mewn mwynder maith
bûm yn dy gusanu lisa gêl
yr oedd dy gwmni’n well na’r mêl.
fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
tydi yw’r lanaf yn y byd
tydi sy’n peri poen a chri
a thi sy’n dwyn fy mywyd i.
pan fyddai’n rhodio gyda’r dydd
fy nghalon fach sy’n mynd yn brudd
wrth glywed sŵn yr adar mân
daw hiraeth mawr am lisa lân.
pan fyddai’n rhodio gyda’r hwyr
fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
wrth glywed sŵn yr adar mân
daw hiraeth mawr am lisa lân.
lisa, a ddoi di i’m danfon i
i roi fy nghorff mewn daear ddu?
gobeithio doi di, f’annwyl ffrind
hyd lan y bedd, lle’r wyf yn mynd.
hiraeth mawr am lisa lân.
hiraeth mawr am lisa lân.
letras aleatórias
- mishima › letra de el moment que no surt mai a les cançons - mishima
- sad cafe › letra de sail on - sad café
- the temptations › letra de thinking out loud - the temptations
- barem › letra de gastando papéis - barem
- oldgod › letra de papercut (kid c. remix) - oldgod
- dressy bessy › letra de i'm never wrong - dressy bessy
- zxo › letra de king of antarctica - zxo
- ruben coco › letra de e invece io - ruben coco
- catalyst producer › letra de the catalyst's end - catalyst (producer)
- the god bombs › letra de castrate me - the god bombs