letra de rhodd - iwan rheon
Loading...
[verse 1]
yn y pridd
mae ein hadau ni
ga ni weld nhw’n tyfu
i mewn i rywbeth gwell
[verse 2]
ger y llyn
yn eu dyfnder hi
rhwydo gwres y dŵr
yn hel atgofion
[chorus]
mae’r ffordd yn hir
ond, ambell waith
gall rhodd
gael ei ollwng
ar dy draed
[verse 3]
amser hir
ers i ni weld nhw
licris ar fy llw
‘naeth i fi deimlo’n sâl
[verse 4]
ar y dde
roedd y tannau’n wyn
a dy wyneb di’n lun
o fod yn rywbeth gwell
[chorus]
mae’r ffordd yn hir
ond, ambell waith
gall rhodd
gael ei ollwng
ar dy draed
[verse 5]
yn y pridd
mae’n cyndadau ni, ei’n tadau ni
be ‘allwn ni ddysgu
i fod yn rywbeth gwell
[verse 6]
bob dydd
mae nhw’n newid ni
dŵr ar wefusau sych
sy’ byth yn ildio
[chorus]
mae’r ffordd yn hir
ond, nid oes bai
dyma rodd
ar fodiau dy draed
letras aleatórias
- cabal terra preta › letra de rajada de fé - cabal & terra preta
- tino de leon › letra de change - tino de leon
- blushing › letra de ours - blushing
- ptazeta juacko › letra de input - ptazeta & juacko
- mortymp3 › letra de diesesliedistkeinspass - mortymp3
- max axe › letra de lemonade - max axe
- eternal insomnia › letra de сосед (neighbour) - eternal insomnia
- coldlone › letra de alexander mcqueen - coldlone
- dissidente › letra de of heads or houses - dissidente
- gobs › letra de hver gang - gobs