letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de cariad ceredigion - datblygu

Loading...

crynais mewn diflastod rhwng aberystwyth ac aberteifi
ac ar yr heol ing i lambed lle claddwyd fy rhieni
ac yn mynwentydd ceredigion naeth y wisgi cymryd gafael
yfais i i’r meirw ac i fy ffrindiau oedd wedi gadael

cofiaf y dagrau a’r amheuon
blynyddoedd o iselder
hwyl fawr i geredigion

carais ambell fenyw o’r sir, roedd eu tynerwch jyst fel plastig
boddodd eu serch yn y glaw gyda eu smudges lipstig
gadawon nhw fi i lynnu’n dynn i’r botel
ond dalais i barhau i fynd wrth grwydro’r awel tawel

gyd o’r dagrau a’r amheuon
roedd rhaid i mi adael
hwyl fawr ceredigion

mae na fеnywod o sir gaerfyrddin i gaerdydd
menywod cеredigion yw’r tywyllwch a’r gweddill yw golau ffydd
mae menywod ceredigion yn caru arian yn fwy na cariad
a’r unig ysgrifenais maent wedi clywed yw y teimlad

ond nawr sbaddu’r dagrau a’r amheuon
hwyl fawr i iselder
hwyl fawr i geredigion
rwy’n troi at ryan davies er mwyn clywed am myfanwy
uniaethaf am y teimlad yn absenoldeb serch fy ffrindiau
ond mae gen i tobaco ond nid yw gormod byth yn ddigon
ac mae tobaco yn fwy ffyddlon na menywod ceredigion

hwyl fawr y dagrau a’r amheuon
a gyd o’r hunllefau
nos da, ceredigion

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...