letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de dewin dwl - melin melyn

Loading...

falle o rhyw blaned bell
falle o rhyw addysg well
o ble doist ti?

o ble y daethaest ti?

o wely lliwgar un o′r llynnoedd mawr
neu ble mae’r doethion direidus yn dadle ar ben clawdd
o ble doist ti?
o ble y daethaest ti?

megis seren wib fe ddiflannaist i ffwrdd
paid a gadael i mi fyth anghofio
anturiaethau y dewin dwl

i ddawnsio gyda′th goron gyda’r tylwyth teg
neu i swatio’n braf a sbio lawr ar gwmwl yn y nef
i ble est ti?
i ble yr aethost ti?

i hongian allan gyda′r hedydd yn yr haul
i smocio dy beipen
′di’r dafarn byth yn cau
i ble est ti?
i ble yr aethost ti?

megis seren wib fe ddiflannaist i ffwrdd
paid a gadael i mi fyth anghofio
anturiaethau y dewin dwl

tan y tro nesa′
nei di anfon rhyw lun
tan y tro nesa’

mi arosai ar ddihyn
er mwyn i ti
i ti gael profi bod y chwedlau yn wir

tan y tro nesa′
nei di anfon rhyw lun
tan y tro nesa’

mi arosai ar ddihyn
er mwyn i ti
i ti gael profi bod y chwedlau yn wir
i ti gael profi bod y chwedlau yn wir
profi bod y chwedlau yn wir
i ti gael profi bod y chwedlau yn wir

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...