letra de tynnu ar y tennyn - i fight lions
[geiriau i ‘tynnu ar y tennyn’]
[pennill 1]
ti’m yn gaeth i’r dystiolaeth, na, ti’n rhydd
paid cwestiynu’r hyn ti’n gredu
pwy benderfynodd mai gwyddoniaeth ydi’r gwir?
mae’r ddealltwriaeth dal i ledu
paid cymhlethu’r gred
[corws]
ti’n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i’r llen
mond i ddarganfod bod y dyn mawr ‘mond yn llais bach yn dy ben
a phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw’r gwir i olau’r dydd
ddewisi di y ffaith ta’r ffydd?
[pennill 2]
creda’n gryf gyda dy galon fawr i gyd
a fydd na’m dadla am yr ateb
mae popeth yna’n blaen, yn glimr ewn du a gwyn
o does na’m graddiant llwyd na lliwgar
pwy a ŵyr pwy wnaeth y sêr uwchben?
pwy a ŵyr pwy fysa’n sgwennu’r ffasiwn ffuglen?
creda’n gryf gyda dy galon fawr i gyd
arwydd o wendid yw ansicrwydd
paid cymhlethu’r gred
[corws]
ti’n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i’r llen
mond i ddarganfod bod y dyn mawr ‘mond yn llais bach yn dy ben
a phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw’r gwir i olau’r dydd
ddewisi di y ffaith ta’r ffydd?
[pont]
ti’n tynnu ar y tennyn
mae’r fflamau’n dwysáu
ond wrth i ti losgi
‘di’r ffydd yn cryfhau?
wyt ti dal i gredu?
wyt ti dal yn siŵr?
ta oes ‘na amheuaeth
am dy dda a dy ddrwg
letras aleatórias
- letra de mars (remix) [feat. blu] - dela
- letra de arm's length - close talker
- letra de cara de ladrão - nikito labrae
- letra de feta! - young coco
- letra de на кассе 2 (at the checkout 2) - 15deleron
- letra de saint tropez - white 2115
- letra de shiver pt. 2 - 8t
- letra de crazy louis - bread green
- letra de enséñame - aureo baqueiro
- letra de him - the soft moon