letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de diwedd y byd - i fight lions

Loading...

dros dair mil o filltiroedd
i’r gorllewin gwyllt
mae’r dyn dros yr iwerydd yn mwytho’r glicied gyda’i fys
a draw draw yn y dwyrain
ma na derfysg yn y dŵr
ond ar stepan drws dy dŷ di, ma petha ‘run mor ddrwg

o jysd anadla’n ddyfn
jysd anadla’n ddyfn
gafal’n dyn a phaid â gadael fynd

ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
ella bo’i’n ddiwedd y byd
ond cariad, dydw i’n poeni dim
cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
lle does na’m helynt i’n hanafu ni
y tarannau a’r tân mond yn si
ar y gorwel, ti’n ddiogel
cyn belled â dy fod di’n fy mreichia i

‘di newyn ‘rioed ‘di newid
ond mae tewdra’n lladd mwy fyth
felly cyfra’r caloriau, cadwa’r sos coch off dy jips
‘sa neb ‘sio mynd yn hen
ond ma pawb ‘sio byw am byth
marw’n ifanc ac yn enwog, dim ond i gyflawni’r wyrth

jysd anadla’n ddyfn
jysd anadla’n ddyfn
gafal’n dyn a phaid a gadael fynd

ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
ella bo’i’n ddiwedd y byd
ond cariad, dydw i’n poeni dim
cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
lle does na’m helynt i’n hanafu ni
y tarannau a’r tân mond yn sî
ar y gorwel, ti’n ddiogel
cyn belled â dy fod di’n fy mreichia i

carchar i’r caethyddion druan
dyna’r tâl am fod yn sâl
ac afiechydon gaiff y meddwon
paid cymryd dim yn ganiataol

o tydwi ddim yn dda ar hyn o bryd
y gwir ‘di, dwi heb fod ers hir

ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd
ella bo’i’n ddiwedd y byd
ond cariad, dydw i’n poeni dim
cyn belled â rwyt ti ‘fo fi’n fan hyn
lle does na’m helynt i’n hanafu ni
y tarannau a’r tân mond yn sî
ar y gorwel, dwi’n ddiogel
cyn belled â mod i’n dy freichia di

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...