letra de \neidia/ - gwilym
ma hi ar goll ar brydia’
dylanwad cry’ y tonnau’n ei thywys hi i’r dŵr
di’rioed di bod mor siwr
mae’r llyw yn boeth, dan’i dwylo
a’r gwynt yn noeth, llgada’n dyfrio
mae’r lleuad ar ei linia’ ger ei thraed
a’r sêr yn llifo yn ei gwaed
ti’n mwynhau y ddrama
amser cau dy gria’
poteli gwag y bora’
sy’n casglu dy ddragra’
neidia, neidia i’r tonna’
deffra, deffra
os y caria di’m mlaen
deith y sŵn i dy foddi
ond ti dal i wenu
mae’r byd yn boen, ar ei ora’
odan dy groen mae y difa
y llanw yn dy lyncu di i’r dŵr
ti o mor siwr
yr alaw sydd yn ailadrodd
ti’n symud dim tan ma’i drosodd
ma’r cryfla wedi mynd o’th olwg di
ac ei di’n ôl draw at y lli
ti’n mwynhau y ddrama
amser cau dy gria’
poteli gwag y bora’
sy’n casglu dy ddragra’
ti’n mwynhau diodda’
y tywod yn dy sgidia’
ti’n cadw draw o’r ysfa
i sychu dy ddagra’
neidia, neidia i’r tonna’
deffra, deffra
(os y caria di’m mlaen)
neidia, neidia i’r tonna’
(ond ti dal i wenu)
neidia, neidia i’r tonna’
deffra, dеffra
(os y caria di’m mlaen)
neidia, neidia i’r tonna’
(ond ti dal i wеnu)
letras aleatórias
- letra de tanajura - wilson aragão
- letra de tipo com abobora - pingodagua
- letra de de donga a marte - reinaldo
- letra de a glória do senhor - elias silva
- letra de me leve para o mar - nós na aldeia
- letra de hi guy - metallica
- letra de viver o sobrenatural - talita pagliarin
- letra de tentaram me calar - comunidade católica shalom
- letra de hino de cantá - hinos de cidades
- letra de meu rochedo - anderson barony