letra de can yr ysgol - dafydd iwan
(pennill 1)
pan oeddwn i rhyw flwydd neu ddwy yn iau
a minnau’n fachgen bochgoch bach, di-fai
mi awn i’r ysgol fel pob bachgen bach da
trwy niwl a glaw boed aea’ neu’n boed ha’
ond yn yr ysgol mi ges
(cytgan)
lessons history
lessons geography
lessons english o hyd ac o hyd
ac ambell i lesson, yn welsh chwarae teg am mai cymro bach oeddwn i
(pennill 2)
fe alwai mam bob bore am saith o’r gloch
gan weiddi yn gymraeg “wel cwyd os wyt am dy gig moch”
ar ol i mi godi a llyncu’r bwyd i lawr
yn gymraeg y dymunai’n nhad a mam hwyl fawr
ond yn yr ysgol mi ges
(cytgan)
lessons history
lessons geography
lessons english o hyd ac o hyd
ac ambell i lesson, yn welsh chwarae teg am mai cymro bach oeddwn i
(pennill 3)
a chyda’r nos mi awn am dro bach i’r coed
ac yno y bm i’n caru’n gynta’ erioed
o dan y llwyni rhoes fy nghalon i hi
ac yn gymraeg y sibrydiai “o rhwy’n dy garu di”
ond yn yr ysgol mi ges
(cytgan)
lessons history
lessons geography
lessons english o hyd ac o hyd
ac ambell i lesson, yn welsh chwarae teg am mai cymro bach oeddwn i
(pennill 4)
ac ar y sul mynd i’r capel oedd fy mhraint
a darllen beibl william morgan yng nghwmni’r saint
cymraeg siaradai yr iesu yma wyddwn i
a chymraeg oedd iath pob gweddi siwr i chi
ond yn yr ysgol my ges
(cytgan)
lessons history
lessons geography
lessons english o hyd ac o hyd
ac ambell i lesson fach, ie dim ond ambell i lesson fach
yn welsh chwarae teg
am mai cymro bach oeddwn i
letras aleatórias
- letra de prophecy - weslee amadhila
- letra de sabaho ward - haifa wehbe | هيفاء وهبي
- letra de cheesy dubs - ka7
- letra de csak játék - zséda
- letra de drip like ah mop(unofficial) - 295liyah
- letra de ангел (angel) - kailash
- letra de saint laurent - diiverse&404hugo
- letra de april breeze - tha god fahim
- letra de micheal myers* - lil uzi vert
- letra de modern morons - night birds