letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de llwyn onn - cerys matthews

Loading...

yn nyffryn llwyn onn draw mi welais hardd feinwen
a minnau′n hamddena ‘rol byw ar y don
gwyn ewyn y llu oedd ei gwisg, a disgleirwen
a′r glasfor oedd llygaid gwen harddaf llwyn onn

a ninnau’n rhodiana drwy’r lonydd i′r banna
sibrydem i′n gilydd gyfrinach byd serch
a phan ddaeth hi’n adeg farwelio a′r wiwdeg
roedd tannau fy nghalon yng ngofal y ferch

cyn dychwel i borthladd wynebwn y tonnau
ond hyfryd yw’r hafan ′rol dicter y don
bydd melys anghofio her greulon y creigiau
un felly o’wn innau ′rol cyrraedd llwyn onn

a thawel mordwyo wnaf mwyach a gwenno
yn llong fach ein bwthyn a hi wrth y llyw
a hon fydd yr hafan ddiogel a chryno
i’r morwr a’i wenno tra byddwn ni byw

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...