letras.top
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

letra de rhosyn tralî - ar log

Loading...

y lloer oedd yn esgyn
dros ysgwydd y mynydd
yr haul oedd yn machlud
fel pelen o’r nen
pan rodiwn yn hapus
ym mreichiau fy nghariad
a’i gwallt oedd fel toreth
o aur ar ei phen
‘roedd hi’n hynod o dlws
fel blodeuyn y gwanwyn
ond nid ei pherffeithrwydd
a’m henillodd i
o! na, ond y gwir
yn ei llygaid yn gwawrio
a wnaeth imi garu
fy rhos o dralî

mae’r lloer eto’n esgyn
dros ysgwydd y mynydd
a’r haul eto’n fflamio
ar orwel pell draw
a minnau yn rhodio
trwy’r ysgall a’r rhedyn
ond nid oes un eneth
i wasgu fy llaw
aeth i ffwrdd gyda’r wawr
ymh-ll dros y bryniau
gan adael ei chwerthin
ym murmur y lli
ond tywyll yw’r noswaith
a thrist yw fy nghalon
mae’r haul wedi machlud
ar ddyffryn tralî
mae’r haul wеdi machlud
ar ddyffryn tralî

letras aleatórias

MAIS ACESSADOS

Loading...